2019 Rhif (Cy. )

YMADAEL Â’R UNDEB EWROPEAIDD, CYMRU

anifeiliaid, cymru

Rheoliadau Iechyd a Lles Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2, a pharagraff 21 o Atodlen 7, i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i is-ddeddfwriaeth, sy’n gymwys o ran Cymru, ym meysydd cofrestru sefydliadau ieir dodwy, lles anifeiliaid wrth eu cludo, lles anifeiliaid a ffermir a lles anifeiliaid wrth eu cigydda.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.


2019 Rhif (Cy. )

YMADAEL Â’R UNDEB EWROPEAIDD, CYMRU

anifeiliaid, cymru

Rheoliadau Iechyd a Lles Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

Gofynion sifftio wedi eu bodloni                ***

Gwnaed                                                 ***

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       ***

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2, a pharagraff 21 o Atodlen 7, i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018([1]), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Mae gofynion paragraff 4(2) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (sy’n ymwneud â gweithdrefn graffu briodol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer y Rheoliadau hyn) wedi eu bodloni.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd a Lles Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019.   

(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar y diwrnod ymadael.

(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Rheoliadau Cofrestru Sefydliadau (Ieir Dodwy) (Cymru) 2004

2.(1) Mae Rheoliadau Cofrestru Sefydliadau (Ieir Dodwy) (Cymru) 2004([2]) wedi eu diwygio fel a ganlyn. 

(2) Yn rheoliad 2—

(a)     hepgorer y diffiniadau o “y Gyfarwyddeb” a “Cynulliad Cenedlaethol”;

(b)     yn y diffiniad o “cofrestr”, yn lle “y Cynulliad Cenedlaethol” rhodder “Weinidogion Cymru”.

(3) Yn rheoliad 4—

(a)     ym mharagraff (1), yn lle “i’r Cynulliad Cenedlaethol” rhodder “i Weinidogion Cymru”;

(b)     ym mharagraff (2)—

                            (i)    yn lle “i’r Cynulliad Cenedlaethol” rhodder “i Weinidogion Cymru”;

                          (ii)    yn lle “â’r Gyfarwyddeb” rhodder “â pharagraff (3)”;

(c)     ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

“(3) Rhaid i’r rhif adnabod gael ei ffurfio o’r cod dull ffermio priodol a bennir yn unol â pharagraffau (5) i (7), wedi ei ddilyn gan y llythrennau “UK”, wedi eu dilyn gan rif adnabod unigryw a ddyrennir i’r sefydliad gan Weinidogion Cymru.

(4) Pan ymddengys i Weinidogion Cymru ei bod yn briodol gwneud hynny, caniateir iddynt ychwanegu nodau pellach i’r rhif adnabod unigryw sy’n ofynnol gan baragraff (3) er mwyn adnabod heidiau unigol a gedwir gan sefydliad mewn adeiladau ar wahân.

(5) Ac eithrio pan fo paragraff (6) yn gymwys, pan ddefnyddir y dull ffermio yng ngholofn A, y cod dull ffermio priodol yw’r rhif cyfatebol yng ngholofn B.

 

Colofn A

Colofn B

Maes

1

Ysgubor

2

Cewyll

3

(6) Pan fo’r dull ffermio a ddefnyddir yn y sefydliad yn cynhyrchu wyau o dan yr amodau a nodir yn Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 834/2007 ar gynhyrchu organig a labelu cynhyrchion organig, y cod dull ffermio priodol yw “0”.
 

(7) At ddibenion paragraff (5), mae’r dull ffermio a ddefnyddir mewn sefydliad i’w bennu yn unol â Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 sy’n gosod rheolau ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 o ran y safonau marchnata ar gyfer wyau.”

(4) Yn rheoliad 6—

(a)     ym mharagraff (2), yn lle “y Cynulliad Cenedlaethol” rhodder “Weinidogion Cymru”, ac ym mharagraff (4), yn lle “i’r Cynulliad Cenedlaethol” rhodder “i Weinidogion Cymru”;

(b)     ym mharagraff (3), yn lle “mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn amdani” rhodder “mae Gweinidogion Cymru yn gofyn amdani”.

(5) Yn rheoliad 7(1), yn lle “y Cynulliad Cenedlaethol” rhodder “Weinidogion Cymru”, ac yn rheoliad 11, yn lle “neu’r Cynulliad Cenedlaethol” rhodder “neu Weinidogion Cymru”.   

Gorchymyn Lles Anifeiliaid (Cludo) (Cymru) 2007

3.(1) Mae Gorchymyn Lles Anifeiliaid (Cludo) (Cymru) 2007([3]) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2) Yn erthygl 2, hepgorer paragraff (5).

(3) Hepgorer erthygl 20.

(4) Yn erthygl 22—

(a)     ym mharagraff (1), yn lle “y Cynulliad Cenedlaethol” rhodder “Gweinidogion Cymru”; ym mharagraff (3)(c), yn lle “y Cynulliad Cenedlaethol” rhodder “Weinidogion Cymru”; ac ym mharagraff (5), yn lle “y Cynulliad Cenedlaethol” rhodder “Gweinidogion Cymru”;

(b)     ym mharagraff (2)(a), yn lle “fo’r Cynulliad Cenedlaethol o’r farn” rhodder “fo Gweinidogion Cymru o’r farn”;

(c)     ym mharagraff (4)—

                            (i)    yn lle “y Cynulliad Cenedlaethol”, yn y lle cyntaf y mae’n digwydd, rhodder “Weinidogion Cymru”;

                          (ii)    yn lle “y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu” rhodder “Gweinidogion Cymru yn penderfynu”.

(5) Yn erthygl 23—

(a)     ym mharagraff (1), yn lle “y Cynulliad Cenedlaethol” rhodder “Weinidogion Cymru”, ac ym mharagraff (3), yn lle “i’r Cynulliad Cenedlaethol” rhodder “i Weinidogion Cymru”;

(b)     ym mharagraff (2), yn lle “y Cynulliad Cenedlaethol” rhodder “Gweinidogion Cymru”;

(c)     ym mharagraff (4)—

                            (i)    yn lle “i’r Cynulliad Cenedlaethol” rhodder “i Weinidogion Cymru”;

                          (ii)    yn lle “o’i benderfyniad terfynol a’i resymau” rhodder “o’u penderfyniad terfynol a’u rhesymau”.

(6) Yn erthyglau 24(9) a 29(2), yn lle “y Cynulliad Cenedlaethol”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “Weinidogion Cymru”; ac yn erthyglau 26(1)(a) a 27(b), yn lle “y Cynulliad Cenedlaethol” rhodder “Gweinidogion Cymru”.

Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007

4.(1) Mae Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007([4]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn Atodlen 1, ym mharagraff 27(2), yn lle “mae i’r ymadrodd “triniaeth söotechnegol” yr ystyr a roddir i “zootechnical
treatment
” yn Erthygl 1(2)(c) o Gyfarwyddeb 96/22/EEC ar wahardd defnyddio sylweddau penodol sy’n cael effaith hormonaidd neu thyrostatig a beta-agonistiaid mewn ffermio da byw.” rhodder “ystyr “triniaeth söotechnegol” (“zootechnical treatment”) yw rhoi i anifail, yn unol â rheoliad 8 o Reoliadau Meddyginiaethau Milfeddygol 2013(
[5]), gynhyrchion meddyginiaethol milfeddygol sydd ag effaith estrogenaidd, androgenig neu estagenaidd ar gyfer cydamseru estrws a pharatoi’r anifeiliaid sy’n rhoi a’r anifeiliaid maeth ar gyfer mewnblannu embryonau, ar ôl i’r anifail gael ei archwilio gan filfeddyg neu rywun y mae milfeddyg yn gyfrifol amdano.”

(3) Yn Atodlen 5A, ym mharagraff 2—

(a)     yn lle is-baragraff (1) rhodder—

“(1) Rhaid i geidwad ddal tystysgrif gydnabyddedig.

(1A) Yn y paragraff hwn, ystyr “tystysgrif gydnabyddedig” yw tystysgrif a gydnabyddir gan Weinidogion Cymru sy’n tystio bod unrhyw hyfforddiant wedi ei gwblhau, neu fod profiad wedi ei fagu sy’n cyfateb i unrhyw hyfforddiant, y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol.”;

(b)     yn is-baragraff (2), yn lle “dystysgrifau a gydnabyddir gan Weinidogion Cymru at ddibenion is-baragraff (1)” rhodder “dystysgrifau cydnabyddedig”.

Rheoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Cymru) 2014

5.(1) Mae Rheoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Cymru) 2014([6]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 3—

(a)     ym mharagraff (1), yn y diffiniad o “Rheoliad UE”, ar y diwedd mewnosoder “fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd”;

(b)     hepgorer paragraff (4).

(3) Yn rheoliad 4(2), hepgorer “, a hwy sy’n gweithredu fel yr Aelod-wladwriaeth at ddibenion y Rheoliad UE a’r Rheoliadau hyn”.

(4) Yn rheoliad 11(3), yn lle “Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon neu Aelod-wladwriaeth arall o’r Undeb Ewropeaidd” rhodder “Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon”.

(5) Yn rheoliad 19(1), hepgorer “(gan gynnwys tystysgrif
neu dystysgrif dros dro a roddwyd mewn Aelod-wladwriaeth arall)”.

(6) Yn rheoliad 35, yn lle paragraff (6) rhodder—

“(6) Caiff arolygydd fynd i mewn yng nghwmni pa bynnag bersonau eraill yr ystyria’r arolygydd yn angenrheidiol.”

(7) Yn Atodlen 2, ym mharagraff 3(2), ar ôl “ag unrhyw rwymedigaeth UE” mewnosoder “a ddargedwir”.

 

 

 

Enw

Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

Dyddiad



([1])   2018 p. 16.

([2])   O.S. 2004/1432 (Cy. 145), y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([3])   O.S. 2007/1047 (Cy. 105).

([4])   O.S. 2007/3070 (Cy. 264), a ddiwygiwyd gan O.S. 2010/2713 (Cy. 229).

([5])   O.S. 2013/2033, y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([6])   O.S. 2014/951 (Cy. 92).